Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/118

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ys oedd mygr iaith gysefin,
Prydais malpai mydr Merddin
Se[1] nym lle, nym llawdd gwerin.

Neu, nym doddyw gnif[2] erfawr,
Gnif llei no lludded echdawr,
A'm dyffo[3] clod, gnif ny'm dawr.


CYWYDD Y CRYFION BYD.

Pwy fal doethion farddoni,
Neu pa faint na wypwyf fi?
Os hylon a fu Selef,
Mi a wn gamp mwy nac ef;
Dwys yw 'r hawl diau sy rh'om,
Bernwch uniondeb arnom;
Mynnwn gael dadl am ennyd,
A barn yn nghylch Cryfion Byd.
Tri chryf i Selyf y sydd,
Ie diriaid bedwerydd:
Llew anwar, hyll ei wyneb,
Preiddiol, na thry 'n ol er neb;
Milgi hirsafn, ysgafndroed,
Heb wiwiach ci; a Bwch coed.
Ner trech o rwysg na 'r tri chryf,
Os holwn, fu i Selyf;
Brenin a phybyr wyneb,
Erfai, na 's wynebai neb.
Dyna, boed cof am danynt,
Ei bedwar; rhai anwar ynt.

Ni chelaf, gwn na choeliech,
Myfi a wn dri sydd drech:
O honynt dau a henwaf,
Didol un yn ol a wnaf,
O chwant caffael rhoi i chwi

  1. Felly
  2. Gofid
  3. Delo