Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BYWGRAFFIAD.

GANWYD ef mewn bwthyn distadl ar fin y Rhosfawr, yn mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Mon, Ionawr 1, 1722. Mab i werinwr tlawd (eurych, medd un hanes) ydoedd, o'r enw, Owen Goronwy. Yr oedd ei rieni yn dlodion iawn; a'i dad, fel cyffredin bobl y pryd hwnw, yn dra gelynol i addysg Dianc a ddarfu iddo i'r ysgol y tro cyntaf, heb yn wybod i'w dad na'i fam; a'i dad a fynai ei guro, eithr ei fam nis gadawai iddo; a thrwy gynnwysiad ei fam, yn yr ysgol glynodd hyd oni ddysgodd enill ei fywyd. Nis gwyddis pa ysgol oedd hon, ond bu am rhyw yspaid yn ysgol Llanallgo; a thybir iddo fod amryw flynyddau mewn ysgol yn Ninbych, oblegyd oddiyno yr hanai cenedl ei fam. Daeth yn ieuanc i gydnabyddiaeth â theulu caredig ac athrylithgar Pentre Eirianell, sef y "Wraig ddigymhar, Marged" Morris; a'r "Trimab o ddoniau tramawr," sef Lewis Morris (Llewelyn Ddu) a'i frodyr Richard a William Morris. Bu y gydnabyddiaeth hon o fawr wasanaeth a chymhorth iddo mewn llawer modd, fel y gwelir yn ol llaw. Fel prawf o ymddadblygiad cynar ei feddwl, dywed golygydd y Gwyliedydd (1822) fyned o Goronwy gyda'i fam i Bentref Eirianell un diwrnod, a chael ohono frechdan o fêl, a gofyn o'i fam iddo pa le yr oedd ei ddiolch am dani; ac yntau, tan bwys teimladau diolchgar calon lawn, a ddywedodd, "Pe bai genyf gynffon mi a'i hysgydwn."