Iach rad, a pham na chredaf?
Y dydd, diogel y daw—
Boed addas y byd iddaw
Diwrnod[1] anwybod i ni,
A glanaf lu goleuni;
Nid oes, f' Arglwydd, a wyddiad
Ei dymp, onid Ef a'i Dad.
Mal cawr aruthr yn rhuthraw,
Mal lladron[2] dison y daw
Gwae'r[3] diofal ysmala!
Gwynfyd i'r diwyd a'r da!
Daw angylion, lwysion lu,
Llym naws â lluman[4] IESU;
Llen o'r ffurfafen a fydd,
Ma! cynfas, mil a'i cenfydd,
Ac ar y llen wybrenog,
E rydd GRIST arwydd[5] ei grog:
Yno 'r Glyw,[6] Ner y gloywnef,
A ferchyg yn eurfyg nef!
Dyrcha'n uchel ei helynt,
A gwân[7] adenydd y gwynt!
A'i angylion gwynion gant,
Miloedd yn eilio moliant.
Rhoi gawr[8] nerthol, a dolef,
Mal clych yn entrych y nef,
Llef mawr goruwch llif mor—ryd,
Uwch[9] dyfroedd aberoedd byd
Gosteg[10] a roir, ac Ust! draw,
Dwrf rhaiadr, darfu rhuaw;
Angel a gân, hoywlan lef,
Felyslais, nefawl oslef;
With ei fant, groywber gantawr,
Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/137
Prawfddarllenwyd y dudalen hon