Pan yn bumtheg oed, yr oedd yn is-athraw yn Ysgol Ramadegol Bottwnog, ger Pwllheli; ond pa ysgolion a fynychodd, a pha hyd yr arosodd ynddynt, er ei gyfaddasu i gymeryd y cyfryw swydd, sydd holiadau nas gellir yn bresenol eu hateb. Bu yn Ysgol Gyhoeddus Bangor o 1737 hyd 1741, ond pa sut yr ymdarawai am gynaliaeth yn y cyfwng hwnw sydd anhysbys. Dilys nas gallai ei riaint helbulus leddfu ond ychydig ar ei angenoctyd, ac y mae y llaw hael a fu yn "borth wrth raid iddo yn yr amgylchiad wedi cau yn yr angau heb i ni gymaint a gwybod enw ei pherchenog. Ar derfyn ei dymhor yn Mangor, dychwelodd adref; ac erbyn hyn yr oedd ei fam wedi marw, a'i dad yn briod âg ail wraig, a chwta mewn canlyniad oedd y croesaw a gafodd ar yr hen aelwyd. O tan bwys hiraeth a thrallod, danfonodd lythyr yn yr iaith Lladin at Owen Meirig, Ysw., o Fodorgan, yn traethu ei hanes; yn cwyno nad oedd yr addysg a gafodd yn ddim amgen na chwaneg o lewyrch i ganfod yn amlycach y trueni oedd o'i flaen; ac yn erfyn ei gymhorth i fyned i un o'r prif-ysgolion, gan fod Mr. Meirig yn arolygwr ar rhyw elusenau yn Mon i berwyl cyffelyb. Nid ymddengys i'w gais fod yn llwyddianus gyda'r boneddwr o Fodorgan; eithr trwy haelioni Mr. Edward Wynne, o Fodewryd, galluogwyd ef i fyned i goleg yr Iesu Rhydychain, lle y graddiwyd ef. Cafodd ei urddo yn ddiacon yn 1745. Nis gallwn adrodd digwyddiadau cyfnesol treigliad ei oes yn well nag yn ei eiriau ef ei hun, y rhai a ysgrifenodd mewn llythyr wedi ei ddyddio o Donnington, sir Amwythig, Mehefin 22, 1732, at y Mr. Richard Morris a grybwyllwyd eisioes:— "Fe'm hurddwyd yn ddiacon, neu yr hyn eilw'n pobl ni, Offeiriad haner pan: ac yna fe ddigwyddodd fod ar esgob Bangor eisiau curad y pryd hyny yn Llanfair Mathafarn Eithaf, yn Mon; a chan nad oedd yr esgob ei hun gartref, ei gaplan ef a
Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/14
Prawfddarllenwyd y dudalen hon