Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/146

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Try'r Ynad draw i'r wiwnef,
A'i gâd gain â gyd ag ef,
I ganu mawl didawl da,
Oes hoenus! a Hosanna.

Boed im' gyfran o'r gân gu,
A melysed mawl IESU;
CRIST fyg a fo'r Meddyg mau,
Amen, a nef i minau.


AWDL,[1]

Awdl yn ol dull Meilir Brydydd, pan gant i Drahaiarn fabCaradawc a Meilir mab
Rhiwallawn, yn iawn ysgrifenyddineth y Gogynfeirdd.

Y Bart du a gant Awdyl honn yn Llwyt y Llas Gwilym fab Hywel

YOLAFI Naf o nef im noddi
Yolaf nys tawaf pi les tewi
Am vap hywel hael hywaet vyg kri
Tawel vap hywel o hil cewri
Dypryd vym pryd ym pryderi lawer.
Am goryw bryder brutieu Sibli
Mi os canaf a syganai hi[2]
Neut (namwyn kelwyt) ti nym coeli
Celwytawc euawe eu broffwydi
Bob nos a dyt a fyt yth siommi
Gorpwyni dank ken trank a Duw tri
Tawaf nys doraf onys dori

  1. Ymgais athrylith gref Goronwy i ddynwared geirwedd a sillebiaeth Meilir Brydydd, bardd Cymreig of gryn deilyngdod, yn ei flodeu yn y 12fed ganrif, ydyw yr awdl hon. Bydd yn ddigon hawdd i'r darllenydd cywrain ddilyn rhediad y cyfansoddiad ond iddo ymgynghori hefo Geiriadur, yn enwedig yr eiddo Thomas Richards o Langrallo. yr hwn yn ol ei bris ydyw y goreu sydd genym -Cymraeg Saesneg
  2. Chwi a welwch nad oedd Sibli yn gwisgo dim clos; Sibylla oedd hi, mae yn debyg—YR AWDWR,