Vyg geneu diheu diheur vi ith wyt.
Ys celwyt ni lwyt ny lut drychni
Map hywel gochel gyrch cymhelrhi
Er a droyttynt gynt geu broffwydi
Cyd bwynt hyd nemawr yth uawr voli
Gweckry eu geirieu geu a gwegi
Pan lat lat letir a llauyn llauyn llabir.
Yno y gwelir pwy a goeli
"Cet[1] buyf gwir nyt goreu vi o nep dyn
Y disgogan hyn o gryn gredi
Mal marchawc berthawe yt ymborthi
Mal gwron dragon dreic eryssi
Yg gwynias lleas llew a fethri
Ar yr asp yr yspys dyrcheui
Osswyt yn fwyr a lwyr lethi
Ny ryberis nef nep i'th dofi
Nyth rybar amhar ymhwrt beri
Ny digawn kadyr cyhydrec a thi
Er gwythuawr reityawr ny roti uram
Neut ny maccwys mam map a dori."
Andaw di breityawr brytest Sibli
Rinyeu ei geneu diheu dybi
Yn a egorwyf gwirion wyv i
Yn ethryb casswir pam ym cessi?
"Dieu[2] y dybyd dyt dynysgi
A rewin a thrin a thrwst ynni
A phan yssic lluric llwyr wae di
Can pan yssic lluric llaur a lyi
Diffeith woleith o wael dyli a gai
A chyn tervyn mei mawr egrygi
Neu dygyvyd llew llawn gwrhydri
Lleweit arwreit eryr cymmri
Yn wg digyurwg digyurag a thi
Tithau gan ei dwrf a lwrf lechi
Cyn nos gwener disgoganaf vi
Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/147
Prawfddarllenwyd y dudalen hon