gytunodd â mi i fyned yno, Da iawn oedd genyf gael y fath gyfleusdra i fyned i Fôn, (oblegyd yn sir Gaernarfon a sir Ddinbych y buaswn yn bwrw'r darn arall o'm hoes er yn un-ar-ddeg oed,) ac yn enwedig i'r plwyf lle'm ganesid ac y'm magesid; ac yno'r aethum, ac yno y bum dair wythnos, yn fawr fy mharch a'm cariad, gyda phob math, o fawr i fach; a'm tad yr amser hwnw yn fyw ac iach, ac yn un o'm plwyfolion. Eithr ni cheir mo'r melus heb y chwerw. Och! o'r cyfnewid! dyma lythyr yn dyfod oddiwrth yr esgob (Dr. Hutton) at ei gapelwr, neu gaplan, yn dywedyd fod un Mr. John Ellis, o Gaernarfon (a young clergyman of a very great fortune), wedi bod yn hir grefu ac ymbil ar yr esgob am ryw le, lle gwelai ei arglwyddiaeth yr oreu, o fewn ei esgobaeth ef; ac ateb yr esgob oedd, os Mr. Ellis a welai yn dda wasanaethu Llanfair (y lle y gyrasai y y capelwr fi) yr edrychai efe (yr esgob) am ryw le gwell iddo ar fyrder. Pa beth a wnai drwstan? Nid oedd wiw achwyn ar y capelwr wrth yr esgob, nac ymryson â neb ohonynt, yn enwedig am beth mor wael; oblegyd ni thalai'r guradaeth oddiar ugain punt yn y flwyddyn. Gorfu arnaf fyned i sir Ddinbych yn fy ol, ac yno y cefais hanes curadaeth yn ymyl Croesoswallt, yn sir Amwythig, ac yno y cyfeiriais; ac er hyny hyd y dydd heddyw, ni welais ac ni throediais mo ymylau Mon, nac ychwaith un cwr arall o Gymru, onid unwaith pan orfu i mi fyned i Lanelwy, i gael urdd offeiriad. Mi fum yn gurad yn nhref Croesoswallt, yn nghylch tair blynedd, ac yno y priodais, yn Awst, 1747. Ac o Groesoswallt y deuais yma, yn Medi, 1748. Ac yn awr, i Dduw y byddo'r diolch, y mae genyf ddau lanc teg, a Duw a roddo iddynt hwy ras, ac i minau iechyd i'w magu hwynt; enw'r hynaf yw Robert, a thair blwydd yw er dydd Calan diweddaf; enw'r llall yw Goronwy, a blwydd yw er y 5ed o Fai diweddaf. Am fy mywiol-
Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/15
Prawfddarllenwyd y dudalen hon