Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Unodl Gyrch.
Er eidduned taer ddynion,
Er gwaedd mil, er gweddi Môn,[1]
Ni adfer Ner amser oes:
Rhed einioes, nid rhaid unon.
Proest Cadwynodl.
Duw a'i dug ef, dad y gân,
Cywir i'w ddydd carodd Ion,
Yn ngolau gwledd engyl glân;
Yntau a 'n sant: tawn a son.
Clogyrnach.
Hawdd y gorthaw ddifraw ddwyfron;
Erchyll celu archoll calon;
O raen oer enaid,
Diau bydd dibaid
Uchenaid a chwynion.
Gwawdodyn Byr.
Cair och o'i hunaw, cur achwynion,
A chaeth iawn alaeth i'w anwylion;
Parawdd i ddinawdd weinion—o'u colled,
Drem arw eu gweled, drom oer galon.
Dau Doddaid.
Pa golled—gwared gwirion—o delmau
Ac o hir dreisiau gwŷr rhy drawsion![2]
O frwd ymddygwd ddigon—y diangodd,
Gwen nef a gafodd gan Naf gyfion.
- ↑ Felly Horatius:—
Labuntur anni; nec pietas moram
Rugis et instanti senectre
Afferet, indomitaeque morti." - ↑ Hyn, a rhan fawr o'r hyn a ganlyn, sy 'n penodi at ryw ddamweiniau a ddigwyddasant iddo, ennyd cyn ei farw; ac nid rhaid i'w gydnabyddiaeth wrth nodau, amgea na'u coffadwriaeth eu hunain i'w hegluro.