Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/151

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwawdodyn Hir.

A fynno gyrraedd nef, wen goron,
Dwy ran ei helynt drain a hoelion,
Pigawg, dra llidiawg fawr drallodion,
Croesau, cryf—loesau, criau croywon,
Erlid a gofid i'w gyfion—yspryd,
Ym myd gwael bawlyd ac helbulon.


Byr a Thoddaid.

Er llid, er gofid, wir gyfion—ddeiliad,
Ef oedd ddilwgr galon;
Duw a folai, da 'i ofalon;
Siôr a garai is aur goron;
Lle bai gwaethaf llu bygythion,
Ni chair anwir drechu 'r union;
Dra gallawdd, nadawdd i anudon—dorf
Lwyr darfu 'r lledneision.


Dau Doddaid.

Bu 'n wastad ddifrad ddwyfron,—ddiysgog
I'w hydr eneiniog Deyrn union;
Rhyngodd ei fodd a'i ufuddion—swyddau
A chwys ei aeliau â chysulion.


Gwawdodyn Byr.

Mesurai, gwyddai bob agweddion,
Llun daear ogylch, llanw dŵr eigion;
Amgylchoedd moroedd mawrion—a'u cymlawdd,
Iawn[1] y danghosawdd, nid anghysson.


Dau Wawdodyn Hir.

Daear[2] a chwiliodd drwy ei chalon;
Chwalai a chloddiai ei choluddion,
A'i dewis wythi, meini mwynion,
A thew res euraid ei thrysorion,

  1. Gwel y Mapiau cywraint o arfordiroedd Cymru a wnaeth ar orchymyn y brenin.
  2. Sef pan oedd olygwr ar fwyngloddiau'r brenhin yn Esgair y mwyn, yn Ngheredigion,