Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/152

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'i manylaf ddymunolion—bethau ;
Deuai i'r golau ei dirgelion.

Olrheiniodd, chwiliodd yr uchelion,
Llwybrau 'r taranau a'r terwynion
Fflamawg fellt llamawg, folltau llymion,
Is awyr gannaid a ser gwynion;
Nodai 'r lloer a'i newidion ;—hynt cwmwl
O fro y nifwl[1] i for Neifion.

Ebrwyddaf oedd o'r wybryddion—hyglod,
A llwyr ryfeddod holl rifyddion.
Traethai, fe wyddai foddion—teyrnasoedd ;
Rhoe o hen oesoedd wir hanesion.


Gwawdodyn Hir.

Honni a gafodd o hen gofion,
Achoedd dewr bobloedd o dwr Bab'lon,
Coffa bri ethol cyff y Brython,[2]
Gomer a'i hil yn Gymry haelion,
Teithiau da lwythau dilythion,-diwarth,
O du Areulbarth[3] i dir Albion.[4]


  1. Bro'r nifwl, neu fro'r tarth, yw yr hyn a ellw y philosophyddion Saesonig ATMOSPHERE.
  2. Cyffy Brython. Efe a ysgrifenodd dwysgen ar y testun hwnnw; ond pa un ai bod dim o'r gwaith yn argraphedig, nis gwn.
  3. Areulbarth, sef y Dwyrain, neu godiad haul.
  4. Enw yr ynys cyn dyfodiad Prydain, oedd ynys Albion, hwnw a'i frawd Bergion a hanoeddynt (fe allai) o lin y Titaniaid neu Celta, cynfrodorion Ffrainc o Phrydain, a meibion oeddynt i Neptun, medd Pompenius, Mela, ac eraill awduron Rhufeinig; sof lyngesyddion dewrion, nc agatfydd mor-wylliaid dilesg; yn gymaint ag mai daw'r moroedd oedd Neptun, a'u gorchfygu eill dan a wnaed, medd yr un Awduron, gan ryw Erewlff (nen Hercules) nis gwyddis pa'r an, gan fod amryw o naddunt; of a allai mai pen lloyddwr Brewlff oedd Prydain, a gorchfygu o hono Albion Gawr, a goresgyn el ynys a'i galw with ei enw ei hun, YNYS PRYDAIN; fel na Li YNYS ALBION o'r blaen; ond coelled pawb y clawedl a fyno,