Gwawdodyn Byr.
A thrin a thrabludd, lludd lluyddion
Prydain a'i filwyr, pryd nefolion;[1]
A'r lladdiad, gâd ergydion-a oryw,
A gwaed a distryw 'r giwdawd estron.
Huppynt Byr.
Ni chaid diwedd O'i hynawsedd a'i hanesion;
Ni chair hafal Wr a chystal ei orchestion.
Tawddgyrch Gyfochrog.
Llon wr gwraidd llawn rhagorau,
Mawrdda 'i ddoniau mor ddiddanion,
Dof arwraidd, difyr eiriau,
Meddaidd[2] enau, wiw 'mddiddanion.
Huppynt Hir.
Glyw defodau Eisteddfodau, A'u hanodau,
A'u hynadon;
Eu cyngreiriau, A'u cyweiriau, A chadeiriau
Uwch awduron.
Cadwyn Fyr
Uwch awduron a chadeiriawg,
Bur iaith rywiawg bêr athrawon,
A chelfyddon uchel feiddiawg,
A'r beirdd enwawg, eirbêr ddynion.
Huppynt Hir yn nglŷn â Gorchest y Beirdd.
Ef oedd Ofydd[3]
A dywenydd,
Hylwybr ieithydd,
Hil y Brython;
- ↑ Efallai y tybir hyn yn rhy eofn i'w dywedyd am ddyn daearol, er ei laned, eithr araith gynefin gan Homer tad yr awen oedd, Dæmonios, &c., a'r cyfryw; y rhai ydynt o'r un ystyr a phryd nefolion, ac y mae llyfr y Trioedd yn son am un a elwid Sanddef bryd Angel, oherwydd ei lendid.
- ↑ Meddaidd, hyny yw peraidd; o'r gair medd y daw.
- ↑ Ofydd, sef yw hwnnw, P, Ofidius Naso, un o brydyddion godidocaf Rhufain.