Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Gan wau gwynwaith,
Tlysau tloswaith,
Orau araith
Aur wron.
Hir a Thoddaid.
Cyrch a Chwtta.
Ar y sydd i'r oes hon
Yn fawrddysg Awen feirddion,
A gwiw les fryd i'w glwys fron,
Bryd arail i'w bro dirion,
Agos oll ynt, dêg weis llon
O ddysg abl, ei ddisgyblion;
A phoed maith goffhâd a mawl
I'w arglwyddawl ryglyddon.
- ↑ Miscuit utile dulci, &c., Hor. Nodwch yma nad yw'r gair 'maswedd," yn ei briod a'i gynefin ystyr, ddim yn arwyddocau serthedd neu fryntni; ond yn unig rhywbeth ysgafn, digrif, nwyfus, yn wrthwyneb i bethau dwysion pwysfawr."
- ↑ Mae'r awdwr, gyd â phob dyledus barch i goffadwriaeth Mr. Lewys Morys, yn tra diolchgar gydnabod, mai iddo ef y mae 'n rhwymedig am yr ychydig wybodaeth ym marddoniaeth Gymraeg a ddaeth i'w ran; ac yn ffyddlon gredu—nid er gwaith nac er gogan i neb—y gall y rhan fwyaf o feirdd Cymru, ar a haeddant yr enw, gyfaddef yr un peth. Ac er nad yw les yn y byd i'r Awdwr mewn dieithr wlad dramor, lle nas deall yn oed ei blant ei hun air o'r iaith Gymraeg, eto mae 'n ddywenydd ganddo goffhau iaith ei fam a'i wlad gynhenid yn ei hir alltudedd; a gresyn ganddo na bai lle y gallai wneuthur mwy o les a pharch i'w iaith a'i wlad;—ond a fynno Duw a fydd.