aeth, nid ydyw ond go helbulus, canys nid oes genyf ddim i fyw arno onid a enillwyf yn ddigon drud; pobl gefnog gyfrifol yw cenedl fy ngwraig i, ond ni fum i erioed ddim gwell erddynt, er na ddygais mo'ni heb eu cenad hwynt, ac na ddigiais mo'nynt chwaith. Ni fedr fy ngwraig i ond ychydig iawn o Gymraeg; eto hi ddeall beth, ac ofni'r wyf, onid âf i Gymru cyn bo hir, mai Saeson a fydd y bechgyn; canys yn fy myw ni chawn gan y mwyaf ddysgu gair o Gymraeg. Mae genyf yma ysgol yn Donnington, ac eglwys yn Uppington, i'w gwasanaethu; a'r cwbl am 26 punt yn y flwyddyn; a pha beth yw hyny tuag at gadw tŷ a chynifer o dylwyth, yn enwedig yn Lloegr, lle mae pob peth yn ddrud, a'r bobl yn dostion, ac yn ddigymwynas. Er hyny, na ato Duw i mi anfoddloni, oherwydd 'Po cyfyngaf gan ddyn, eangaf gan Dduw.' Nid oes ond gobeithio am well troiad ar fyd."
Gadawodd Donnington yn nechreu 1753; ac wedi peth disgwyl, cafodd guradiaeth Walton, gerllaw Liverpool, Er na threuliodd ond tua thair blynedd yn y lle hwn, y mae yno ychydig adgofion am dano. Gellir gweled ei lawysgrif yn llyfr yr Eglwys; claddodd eneth fechan ddwy flwydd oed yn y fynwent, ond nid yw y llecyn yn hysbys; dangosid settle mewn tafarndŷ wrth borth y Fynwent ar ba un y byddai'r "Eminent Welsh Bard," ys dywedai y gwestwyr, yn tori ei syched ac yn mygu ei bibell. Y mae y darluniad canlynol o fynediad ein harwr gyntaf i Walton, mor nodweddiadol o ieithwedd gref a dysgrifiadol Goronwy, fel nas gallwn lai na'i gyfleu ger bron ein darllenwyr:-"Mi gyrhaeddais yma bore ddoe, yn nghylch dwy awr cyn pryd gwasanaeth, a'r person a'm derbyniodd yn groesawus ddigon; ond er maint fy lludded, fe orfu arnaf ddarllen y gwasanaeth a phregethu fy hun y bore, a darllen gosper y prydnawn, ac yntau a bregethodd. Y mae'r gwr yn edrych yn