wr o'r mwynaf, ond yr wyf yn deall fod yn rhaid ei gymeryd yn ei ffordd; mae'r gwas a'r forwyn (yr hyn yw'r holl deulu a fedd) yn dweyd mai cidwm cyrrith, annynad, drwg anwydus aruthr yw. Ond pa beth yw hyny i mi? bid rhyngddynt hwy ac yntau am ei gampau teuluaidd; nid oes i mi ond gwneud fy nyledswydd, ac yna draen yn ei gap. Hyn a allaf ei ddywedyd yn hy am dano, ni chlywais erioed haiach well pregethwr na digrifach mwynach ymgomiwr. Climach o ddyn afrosgo ydyw-garan anfaintunaidd, afluniaidd yn ei ddillad, o hyd a lled aruthr anhygoel; ac wynebpryd llew neu rywfaint erchyllach, a'i drem arwguch yn tolcio yn mhen pob chwedl, yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygion, ac yn cnoi dail yr India, byd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei ên. Ond ni waeth i chwi hyny na phregeth, y mae yn un o'r creaduriaid anferthaf a welwyd erioed y tu yma i'r Affric. Yr oedd yn swil genyf ddoe wrth fyned i'r eglwys yn ein gynau duon, fy ngweled fy hun yn ei ymyl ef, fel bad ar ol llong."
Cadwai ysgol hefyd yn Walton, a rhwng y cwbl nid oedd ei gyflog onid tua £40 yn y flwyddyn. Treuliodd oddeutu tair blynedd, tel y dywedwyd, yn y lle hwn, tan gwyno'n dost yn ei lythyrau gyfynged ei amgylchiadau, ymbil ar ei gyfeillion am borth i rhyw le gwell yn enwedig yn Nghymru, ymgladdu i waith yr hen feirdd Cymreig, trwsio edyn ei awen ysplenydd, yn nghyda'i rhoddi i hedfan wrth ambell bwt o gywydd, er mwyn arfer ei nherth, a'i darpar at rhyw orchestwaith yn y dyfodol. Cyfansoddasai "Gywydd y Farn," pan yn Donnington, a bu yn perffeithio cryn lawer arno yn Walton. Tueddwyd ef i ymadael o Walton gan rhyw hudlewyn o addewid a wnaethid iddo gan gyfaill y cawsai fod yn offeiriad Cymreig yn Llundain; ac i'r Brifddinas yr aeth rywbryd tua Ebrill, 1753. Trodd yr offeiriadaeth Gymreig allan yn siomedigaeth, ond ni chafodd y bardd