laswerdd, ac y goddefasasai'n amyneddgar flynyddau o gyni yn y gobaith y buasai'r diwedd yn fywiolaeth fechan o'i mhewn. Yn awr, wele ddinystr breuddwyd dymunol ei fywyd, a phob awel deneu yn briwsioni'r gobaith a fuasai'n ateg iddo tan bwys aml a blin gystuddiau. Eithr er croesi'r Atlantig, nid ymddengys fod ond ychydig fêl yn ei gwpan, canys ansefydlog fu ei fywiolaeth hefyd yn myd pell y Gorllewin. Ar ol bod yn gwasanaethu un neu ddau o wahanol blwyfi, cafodd ei neillduo yn un o ddysgawdwyr coleg William a Mary, Williamsburgh, Virginia. Symudodd oddiyno a bu yn gwasanaethu mewn lle o'r enw St. Andrews, yn yr un dalaeth, o Rhag. 13, 1760, hyd Gorph. 22, 1769; a thybir iddo farw yn fuan ar ol y dyddiad olaf. Collodd ei wraig gyntaf, a phan yn ngholeg Williamsburgh priododd ail wraig, yr hon oedd chwaer i lywydd y coleg, ac yn weddw gyda phump neu chwech o blant. Hithau hefyd a fu farw, ac yr oedd ei brawd, y llywydd, yn pwyso ar Goronwy i gynal ei phlant allan o'i gyflog bychan. Pan yn ysgrifenu ei lythyr yn 1767, yr oedd yn briod â'i drydedd wraig, a'i holl deulu Seisnig wedi marw ond ei fab Robert. Yn 1798, rhai o edmygwyr Goronwy a ysgrifenasant at y Robert hwn, gan ddeisyf cael gwybod ganddo ychydig o hanes ei dad athrylithlawn; eithr yr oedd y gwr hwn wedi estroneiddio cymaint oddiwrth ei dad a'i genedl, fel mai yr unig ateb sarug a gafwyd oddiwrtho ydoedd gofyn pwy a dalai iddo ef am ei drafferth Oddiwrth ran o'i ewyllys, yr hon oedd yn meddiant rhai o'i ddisgynyddion yn Brunswick, dywedir ei fod wedi gadael o'i ol bedwar o feibion; eithr y mae ei holl deulu bellach wedi ymgolli yn ngweriniaeth fawr yr Unol Daleithiau. Nid yw y lle na'r pryd y bu farw, na'r man y claddwyd ef, yn adnabyddus.
O ran ymddangosiad allanol, dyn bychan o gorpholaeth ydoedd, bywiog ei dymher a'i ysgogiadau, pryd