hwn, onide prin y credwn y buasai yn tynu ei delyn oddiar yr helyg yn myd pell y Gorllewin i nablu yr awdl farwnad benigamp ar ol Lewis Morris, Ysw., "Pen Bardd, Hanesydd, Hynafiaethydd, a Philosophydd yr oes a aeth heibio," ys dywed efe yn mhenawd yr awdl. "Ar ni wêl y llygad ni phoena'r galon," medd yr hen ddiareb.
Fod Goronwy Owen yn ysgolor o'r radd uwchaf, ac wedi yfed yn ddwfn o ffynonau clasuriaeth, sydd eithaf amlwg oddiwrth ei lythyrau a'i farddoniaeth; ac os rhoddir coel ar hanesion, yr oedd ei gyflymder i ddysgu ieithoedd yn ymylu ar y gwyrthiol. Dywedir na bu onid rhyw dair wythnos yn meistroli yr Arabig; ond pa un a oes goel i'w roddi ar hyny neu beidio, diau am y Groeg, y Lladin, a'r Hebraeg, eu bod ar flaenau ei fysedd, ac mor hyddysg iddo âg iaith ei fam. Yn dissecting room yr ieithoedd meirwon yr ymlwybrai'n benaf pan yn ieuanc-gan ymddigrifo dodi asgwrn ohonynt wrth ei asgwrn, ac olrhain cysylltiadau dyrys a chywrain geiryddiaeth ymadawedig. Ac er y cydnebydd efe yn un o'i lythyrau fod prif gryfder ei athrylith yn gynwysedig mewn cyfachu geiriau, a threiddio i'w perthynasau gwahanredol; eto, nid ar drostan ieithyddiaeth y cerfiodd efe ei enw tros byth, nac y gosododd ddelweddau anniflant ei enwogrwydd. Mewn llythyr at Mr. Richard Morris, dywed mai yn Nadolig, 1751, y dechreuodd efe brydyddu; ac os felly, yr oedd "Cywydd y Farn" yn un o ffrwythau cynaraf ei awen, canys sonia am y gwaith hwnw mewn llythyrau dyddiedig yn y rhan gyntaf o'r flwyddyn 1752. Ymddengys fod y bardd yn gwneud cam âg ef ei hun, os oes cred i'w roddi ar ddyddiadau ei weithiau; canys yn ol y rhai hyny, cyfansoddasai "Gywydd Calendr y Carwr," yn Mhwllheli, tua'r flwyddyn 1743; a'r "Englynion i Dduw," ddwy flynedd cyn hyny. Nid yw hyn, pa fodd bynag, ond un o'r llawer gwrthddywediadau