Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anesboniadwy sydd yn llythyrau y bardd. Llywelyn Ddu oedd ei athraw barddonol, a'i gyd-ddysgybl oedd y y trylen Ieuan Brydydd Hir; tuag at yr hwn y teimlai Goronwy gryn lawer o eiddigedd barddonol, ac awydd i dalu iddo, yn enw Mon, y ddyled ag oedd arni i Geredigion ar ran Rhys Meigen, oblegyd y gurfa a gafodd hwnw gan Ddafydd ab Gwilym. Pa fodd bynag, wedi iddo ddechreu ymgyfeillachu â'r awen, yr oedd ei gariad ati yn angherddol; a chyfansoddodd y rhan luosocaf o'i ddarnau barddonol yn ystod blynyddau ei gariad cyntaf, sef rhwng 1752 a 1756. Ac er mor fyr y cyfnod hwnw, cynyrchodd ynddo geinion mor uchelryw, nes ei restru yn "Brif-fardd Cymru." Mewn nerth a gorpheniad clasurol, y mae yn mhell uwchlaw pob bardd Cymreig; ac y mae ugeiniau o'i linellau mor gryno, cynwysfawr, a chymhwysiadol, â dim diarhebion sydd yn yr iaith, ac y mae amryw ohonynt bellach ar gôf a llafar gwlad fel diarhebion. Diau fod cyfansoddi diarhebion cenedl, deddfau cyfeillach a'r aelwyd, yr anrhydedd uwchaf y dichon i farwol ddyn byth ei gyrhaedd. Yn annibynol ar hyn, arucheledd ydyw prif deithi ei farddoniaeth; ac yn Nghywydd y Farn" y gwelir hyny arbenicaf. Yn hwnw, cyfodir ni ar fynydd uchel; dychrynir ni gan fellt; arswydir ni gan daranau; ymddengys arwydd y Grog ar ael y ffurfafen ddychrynedig; udgenir y "corn anfeidrol ei ddolef," sain yr hwn a fodda dwfr rhaiadrau byd, a "phob cnawd o'i heng a drenga;" gwelwa goleuadau y nefoedd, ac o'n cylch ac o tanom y mae'r greadigaeth yn briwsioni yn fil myrdd o ddarnau, Bwrir i lawr y wal ddiadlam, nes y mae distryw yn noeth ger ein bron; agorir y dorau tragwyddol, a dyna wynfydedd gwlad y gwynfyd ger bron ein llygaid. Ymddengys yr Ynad yn holl rwysg a mawredd ei swydd; gwysir y dorf ddirfawr i dderbyn ei dedfryd; ac mewn byr eiriau darllenir tynged dragwyddol pob dyn byw. Y