Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae y sylwedydd bellach wedi ymgolli mewn syndod, dychryn, ac addoliant; ac yn barod i gyduno yn neisyfiad y bardd ar derfyn y cywydd:—

Boed im' gyfran o'r gan gu,
A melused mawl IESU;
CRIST fyg a fo'r Meddyg mau,
Amen, a Nef i minau,

Nid oes yn unrhyw iaith odid arwrgerdd ardderchocach; ac y mae y cyfan ohoni yn gynwysedig mewn ychydig tros 150 o linellau. Yn mysg eraill o'i gyfansoddiadau ceir darnau mor angerddol a thanbaid; er nad yw eu maint yn cyfateb i'w tryloywder. Cwynir weithiau ei fod yn arfer geiriau ansathredig, nes difwyno blas y darllenydd wrth ryfynych gyfeirio at y geiriadur; ond amcan y bardd yn hyn oedd ymgyrhaedd at ddiwylliad yr iaith, ceisio gloywi ei defnyddiau, helaethu ei therfyngylch, a dwyn ei thrysorau i lawn ymarferiad; yn lle ein bod yn ymfoddloni ar ychydig frawddegau undonol a chylch ymadroddion tlodion, tra y mae corph yr iaith yn gorwedd yn farw yn ngholofnau ein geiriaduron. Ysgrifenodd hefyd tua haner cant o Lythyrau at gyfeillion, yn enwedig at Richard a William Morris. Yn y rhai hyn, ceir twysged werthfawr o sylwadau beirniadol ar feirdd a barddoniaeth, yn nghyda hanes cyfeillachol o'i symudiadau, a threm ledradaidd i'w deimladau tan ddyblygion gofid a thristwch.

Cyhoeddwyd ei farddoniaeth, oddieithr "Marwnad Lewis Morris," "Darn o awdl i Dywysog Cymru," "Cywydd y Cynghorfynt, neu Genfigen," "Cywydd y Cryfion Byd," a'r "Englynion i Elis y Cowper," yn y Diddanwch Teuluaidd, neu waith beirdd Mon, gan yr hen brydydd Huw Jones o Langwm, yn y йwyddyn 1763; a'r darnau uchod a argraffwyd gyntaf yn Ngorph y Gainc, gan Ddafydd Ddu Eryri, yn 1810. Ailargraffwyd y Diddanwch, gyda'r chwanegiadau, tan olygiaeth Dafydd Ddu, yn 1817. Argraffwyd ei Lythyrau gyntaf yn Ngreal Llundain,