Prawfddarllenwyd y dudalen hon
y Cambrian Register, y Cambro Briton, a'r Gwyliedydd. Yn 1860, cyhoeddwyd argraffiad o'i waith gan J. Jones, Llanrwst, tan yr enw Gronoviana, Pris 5s. 6ch. Ac yn 1876, cyhoeddwyd y rhan gyntaf o "The Poetical Works of the Rev. Goronwy Owen, with his Life and Correspondence," gan y Cymro twymgalon a llengar y Parch. R. Jones, Rotherhithe, Llundain. Bwriedir gorphen y gwaith hwnw mewn pedair rhan 7. 6ch. yr un. Prin y rhaid dweyd mai nid yr amcan wrth ddwyn allan yr argraffiad hwn ydyw disodli na niweidio cylchrediad yr un o'r ddau uchod; ond yn hytrach dodi yn nghyrhaedd pob Cymro farddoniaeth un o brif-feirdd ein gwlad.