Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AWDL COFFADWRIAETH AM Y PARCHEDIG
GORONWY OWEN,

Gan DEWI WYN o Eifion.

GWNA, Awen, yn egniawl,—loyw weisgi,
Felus—gerdd hiraethawl,
I ORONWY ŵr unawl,
Gynt o Fôn, a gant wiw fawl.

Awdurol goffadwriaeth—o urddas
I arddwr Barddoniaeth ;
Addurn ei areithyddiaeth
Oedd ffrŵd o gynghanedd ffraeth.

Diwyd ydoedd yn deawr,—o'i fynwes,
Wiw feini tra gwerthfawr ;
O'i law wèn yn loyw ei wawr,
Mewn mynyd daeth maen mynawr.

Ei genedl a ddigonodd—almariau,
A mêr-wawd a huliodd ;
Mêl a gwin llawn rhîn yn rhôdd
O'i fronau a gyfranodd.

Ffynon o werthfawr hoff enaint—eilwaith
Ni welwyd ei chymaint ;
Tarddodd o hon (bron er braint)
Loyw foroedd o lifeiriaint.

Pum mwy addysg pe meddwn,—gwiw rinwedd
Goronwy mynegwn;
Ei fawl haeddawl cyhoeddwn,
Ar hyd yr holl-fyd mawr hwn.