Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A gwiw gain addurn gogoneddus,
F' eiliai lawenaf fawl haelionus
O ei ddwys galon ddiesgeulus,
I Dduw nefolaidd yn ofalus.

Ei ganiadau gwiw a hynodol,
Enwog o synwyr yn gysonol,
Ynt gyflawn o feriawn anfarwol,
A dewr hediadau awdurdodol.

Eiliai GORONWYy liwgar enwawg,
Odlau digoll diwael hedegawg,
Yn ail i ARTHUR ddoniol wyrthiawg,
Neu'n ail LLYWARCH HEN alluawg.

Celfydd dafodrydd fydrwawd,—lais anwyl
A seiniodd â'i dafawd;
Yn ddifai eiliai folawd
O ddwyfol sylweddol wawd.

Ffrwyth rhywiog osglog a gesglir—odiaeth
Dda oruchafiaeth a ddyrchefir:
Gwin melus a ganmolir—G'RONWY ffraeth
A'i wir Ofyddiaeth a ryfeddir.

Iaith Gomer a'i theg emau,—o bob iaith,
Tra bu byw yn orau,
Hon a garodd, enwog eiriau,
A'i godidog wiw gydiadau,
A'i choronog iach hoyw rinau,
Ei thêg ruddyn coeth a'i gwreiddiau,
Ei phrif oludoedd a'i phêr flodau—cain
Wir gywrain ragorau
Elfen ei Awen loyw fenywaidd,
Lon, eres, oleu, wen, risialaidd,
Oedd gwau sain foddog, iesin, feddaidd,
Bêr a dewisol baradwysaidd.

Ei gywir, wresog Awen,—loyw emog,
Dychlamai drwy'r wybren,
Seiniai, chwibianai uwch ben,
Fal eos nefol lawen.