Yn iâch awen a chywydd!
Darfu am ganu Gwynedd
Duw anwyl! rhoed awenydd
A doniau byd yn y bedd!
Ow! dir Mon, wedi rhoi maeth—i esgud[1]
Wiw osgordd[2] gwybodaeth
Och ing a nŷch angau wnaeth
I fro dewrion fradwriaeth.
Diwreiddiwyd ei Derwyddon,
A'i beirdd sad yn mae brudd sôn!
Gwae'r ynys, aeth Goronwy;
Ni bu ei fwy neb o Fôn.
Prif flaenawr mawr yn mhlith myrdd
O awduron hydron,[3] heirdd;
Bydd gwastad goffâd o'i ffyrdd
Yn oed byd, ynad y beirdd.
Gorawen[4] nef i'r gŵr nod
Uwch Homer cerddber y caid;
A chyson gath![5] uwch Hesiod,
Goreugerdd feirdd y Groegiaid.
Llyw barddas uwch Horas hên,
A Virgil gynil ei gân;
Er rhwysg Rhufein—feirdd a'u rhin,
Gŵr o enw mwy G'ronwy Mon,
Bu yn hyddysg arwyddfardd bonheddig
Coffai hen dreigliadau dirgeledig
Brython, a'u hachau, raddau mawryddig,
Chwith, hylaw athraw a'i chwe' iaith lithrig,
Bod yn ei ôl; byd anelwig! mwyach—
Yn iach! ni wys bellach hanes bwyllig.
Tlysach na gwawd Taliesin—yw ei waith,
Neu araith Aneurin;
Mwy ei urddas na Myrddin,
Ac uwch Dafydd gywydd gwin.
Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/38
Prawfddarllenwyd y dudalen hon