Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edrychais, ymdreuliais dro,
Am raddol gymhar iddo,
Trwy fawr gyrch,—tra ofer gais:—
Ni welais:—traul anolo.[1]

Ni bu Frydain wèn heb fawr radau
Yr awen fawrwyrth er yn forau,—
A choffa hoenwawd[2] i'w chyffiniau
Gan dderwyddon, mwynion emynau,
A beirdd uniawn, ewybr[3] ddoniau;—enwog,
Syw,[4] aurdorchog, odidog deidiau.

Goronwy gŵr hynod o'r pendodau,
Ebrwydd lafurwyr yn eu beirddlyfrau
Odid o'r beirddion, diwydion dadau,
Y bu un awdwr yn ei benodau,
Mor ddestlus, fedrus fydrau,―mor berffaith
Mewn iaith, iesin[5] araith, a synhwyrau.

Manwl a digwl[6] y gweinidogodd;
Hud[7] a gorddwy[8] a phob gwyd[9] gwaharddodd;
Rhagfarn, rhagrith, a gaulith[10] ogelodd;
A mawl Iôn i blith dynion a daenodd;
Ac iddynt efe gyhoeddodd yn dwr
Enw y Creawdwr, i'r hwn y credodd.

Er trallodion, gofalon filoedd,
Bu lawen dirion mewn blinderoedd,
Gan wir gofiaw llaw a galluoedd
Duw Iôr i'w weision, hyd yr oesoedd:
Ei awen bêr o'r dyfnderoedd—isel
Ehedai'n ufel[11] hyd y nefoedd.

Bu tra chyweithas bob tro chwithig
Yn hynt ei fywyd, fyd tarfedig.[12]
Uthrol[13] dro nodol dirwynedig
Troi o'r blaenawr mawr i Amerig
Truenus beirddion, tra unig—o'i ôl:—
Tra niweidiol fu'r tro enwedig.

  1. Anfuddiol.
  2. Llawengerdd.
  3. Cyflym.
  4. Dysgedig, doeth.
  5. Teg.
  6. Difai.
  7. Hudoliaeth.
  8. Trais.
  9. Pechod
  10. Gaugrefydd
  11. Tan
  12. Chwaledig
  13. Rhyfeddol