Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yma y poenwyd am y penial;[1]
Yntau wrda hwnt[2] o'i ardal
Yn bwrw einioes mewn bro anial:—
Trwm o'r ddwyochr, tramawr ddial!

Trymaf tremiad,[3]
Breuddwyd irad,[4]
Briddo dewrwas
Yn Virginia
Llin hên Droia
'N Llan Andreas

Budd na chyfoeth na bêdd ni chafodd
O'r eiddo Mon, er a ddymunodd
A Duw er hyny da y rhanodd;
A f'ai oreu iddo ef rhoddodd
Duw eilwaith a'i didolodd—o'r bŷd trwch:—
Ei Nef i degwch nef a'i dygodd.

Yn iach anwyl wych ynad,—oedd ddichlyn
I'w ddwy uchel alwad;
Ffuraf[5] Fardd ac Offeiriad
A throm och am athraw mâd![6]
Pregeth ryfedd o'i ethryb[7]
In' och'lyd ein uchel dyb.
Daearwyd ei orwedd,
Lle yr awn oll yr un wedd.
Pa fodd hyn? pwy a fydd iach,
A'i dyfiad o waed afiach?
Un dawn rhag angau nid oes:—
Ei ran yw dwyn yr einioes.
Daear i ddaear ydd â:–
Ond awen, hi flodeua.

Er rhoi yn isel wir hanesydd,
Dewin dwnad, tyf dawn dywenydd
Yn egin o'i weryd, yn gain[8] irwydd;
Blodau'r iaith yw ei waith, wiw ieithydd;
Eirioes[9] gan bob oes bydd—ei ganiadau
I'w geneuau fal y gwin newydd.


  1. Ffel-graff, a synwyrlym
  2. Draw
  3. Golygiad
  4. Gresynus
  5. Doethaf neu ddysgedicaf
  6. Da
  7. O'i herwydd
  8. Teg
  9. Hardd