Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tra rhedo haul yn nen ysblenydd[1]
Y rhed ei fawl, wr di hefelydd;[2]
O dad i fab, dweud a fydd—moladwy
Am Oronwy, mawr ei awenydd!

Ofer o'i herwydd fawr hiraeth:—pwyllwn,
Na wylwn o'i alaeth
Llawer iawn gwell y lle'r aeth,—
Fro dirion ddi fradwriaeth.

Gwlad nef ei haddef[3] heddyw,—
Trefad[4] awen fad nef yw.
Anwylfardd yn ei elfen,
Ni thau a mawrhau y Rhên.[5]
Mae'n yspryd tanllyd, unllef,
Un llawen hoen a llu nef,
Yn gwau mawl i'r bythawl ben,
Duw y duwiau Dad awen.

  1. Disglaer
  2. Digyffelyb
  3. Cartref.
  4. Trigfa.
  5. Arglwydd