Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Da, ddyn fain, y'th gywrainiwyd,
Hygar ei ffurf, hoywgorph wyd;
Adwyth fod it', ddyn wiwdeg,
Ogwydd i dwyll â gwedd dêg.
Odid y canfu adyn,
Chwidrach anwadalach dyn;
Seithug[1] a gefais wythwaith
Gan fain ei hael, gwael y gwaith;
Siomaist fi'r wythnos yma,
Nos Sadwrn ni chawn dwrn da,
Dyw Sul y deuais eilwaith,
Dydd Llun y bu'n dywydd llaith;
Dyw Mawrth, da ym' ei wrthod,
Dydd Mercher garw gur ac ôd,
Dydd Iau diau fu deg,
Och Wener! gwlaw ychwaneg.
Ail Sadwrn a fu swrn sych,
Oerwynt im' oedd, ddyn eurwych,
Rhew ydoedd a rhuadwynt,
O berfedd y gogledd gwynt.
Trwy gorph nos yr arhosais
(Dwl im') ac ni chlywn dy lais,
Cnithio'n[2] gras ar y glaswydr
A'm bys, gyd ag ystlys gwydr,
Llwyr egru llawer awgrym,
Disgwyl i'r ddôr egor ym';
Yno gelwais (â llais llwrf
Rhag cwn, a pheri cynhwrf)
"Mari fwyn, mawr yw fanwyd,
Oer ydyw, O clyw, o'th clwyd;
Mawr yw fy nghur, lafur lwyth,
Deffro gysgadur diffrwyth.
Galwad, ond heb ateb, oedd,
Mudan, fy nyn im' ydoedd.
Symudaw'n nes, a madws,
Cyrhaedd dôl dryntol y drws.

  1. Siom.
  2. Cyffyrddiad tyner—"Ni thrawai gnith a'r ewin, na bai lais gwell na blas gwin."—TUDUR ALED i Delyniwr.