Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Oerchwith gaeth gyflwr erchyll!
Ai Af, ai Nag af a gyll?
Bwriadu'n un bryd a wnaf,
Ac â'r ffon y gorphenaf,[1]
Dodaf fy ffon unionwymp,
Ar flaen ei goflaen, hi gwymp,
Aed lle'r el, ni ddychwelaf,
Ar ol y dderwen yr af.

AWDL Y GOFUNED,[2]

A ganwyd 1752, cyn gwybod pa beth oedd Awdl.

O CHAWN o'r nef y peth a grefwn,
Dyma archiad im' a erchwn,
Un rodd orwag ni ryddiriwn[3]—o ged,
Uniawn ofuned, hyn a fynwn.

Synhwyrfryd doeth, a chorph anfoethus,
Cael, o iawn iechyd, calon iachus;
A pheidio yno â ffwdanus—fyd
Direol, bawlyd, rhy helbulus.

Dychwel i'r wlad lle bu fy nhadau,
Bwrw enwog oes, heb ry nag eisiau,
Ym Mon araul, a man orau—yw hon,
Llawen ei dynion, a llawn doniau.

Rhent gymhedrol, Plwyf da 'i reolau,
Tŷ îs goleufryn, twysg o lyfrau;
A gwartheg res a buchesau—i'w trin
I'r hoyw wraig Elin[4] rywiog olau.

Gardd i minau, gorau ddymuniad,
A gwasgawdwydd o wiw gysgodiad;
Tra bwy'n darllain cain aceniad—beirddion.
Hil Derwyddon, hylaw adroddiad.


  1. Hen goel Pan y deuai ymdeithydd at groesffordd, a methu penderfynu pa ffordd i'w dilyn, dodai ei ffon ar ei phen, ac i ba gyfeiriad bynag y disgynai, y cyfeiriad hwnw a gymerai yntau.
  2. Dymuniad.
  3. Ddeisyfwn.
  4. Elin oedd enw ei wraig gyntaf