Ac uwch fy mhen, ym mysg canghenau,
Ber baradwysaidd lwysaidd leisiau,
Ednaint meinllais, adlais odlau—trydar
Mwyn adar cerddgar, lafar lefau.
A thra bo'r adar mân yn canu,
Na ddeno gwasgawd ddyn i gysgu,
Cydgais â'r côr meinllais manllu,—fy nghân,
Gwiw hoyw a diddan gyhydeddu.
Minau a'm deulanc mwyn i'm dilyn,
Gwrandawn ar awdl, arabawdl Robyn;
Gan dant Goronwy gywreinwyn,[1]—os daw
I ware dwylaw ar y delyn.
Deued i Sais yr hyn a geisio,
Dwfr hoff redwyllt ofer a ffrydio
Drwy nant, a chrisiant (a chroeso)—o chaf
Fon im', yn benaf, henwaf hono.
Ni wna farwyrain yn fawreiriog,
Gan goffau tlysau, gwyrthiau gwerthiog,
Tud,[2] myr,[3] mynydd, dolydd deiliog,―trysor
Yr India dramor, oror eurog.
Pab a gâr Rufain, gywrain gaerau;
l'aris i'r Ffrancon, dirion dyrau,
Llundain i Sais, lle nad oes eisiau—son
Am wychder dynion; Mon i minau.
Rhoed Duw im' adwedd iawnwedd yno,
A dihaint henaint na'm dihoeno,
A phlant celfyddgar a garo—eu hiaith,
A hardd awenwaith a'u hurdduno.
Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/46
Prawfddarllenwyd y dudalen hon