Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Da ddyfydd Duw i ddofion,
Disgwylied, na 'moded Mon;
Ac odid na cheiff gwedi,
Gan Ion, Lewis Mon a mi;
Neu ddeuwr awen ddiell,
I ganu gwawd ugain gwell.
Lewis Mon a Goronwy,
Ni bu waeth gynt hebddynt hwy;
A dilys na raid alaeth
I Fon, am ei meibion maeth;
Nac achos poen, nac ochi,
Na chwyn, tra parhaoch chwi;
Brodir gnawd ynddi brydydd,
Heb ganu ni bu, ni bydd.
Syllwch, feirdd, o Gaswallon
Law-hir, hyd ym Meilir Mon;[1]
Mae Gwalchmai[2] ertai eurlawr?
P'le mae Einion[3] o Fon fawr?
Mae Hywel ap Gwyddeles?[4]
Pen prydydd, lluydd a lles;
Pen milwr, pwy un moliant?
Enwog ŵr, ac un o gant,
lawn genaw Owen Gwynedd,[5]
Gwae'n gwlad a iu gweinio'i gledd.
Bwy unfraint â'r hen Benfras?[6]
Gwae fe fyw, ei lyw a las.
Mae'r Mab Cryg[7]. oedd fyg pan fu
Ab Gwilym[8] yn bygylu?
Dau gydgwys gymhwys gymhar,
Un wedd ag ychen yn âr.
Cafed yn Mon dduon ddau,
Un Robin[9] edlin odlau;
A Gronwy[10] gerddgar union,
Brydydd o Benmynydd Mon

  1. Meilir ab Gwalchmai
  2. Gwalchmai ab Meilir.
  3. Einion ap Gwalchmai
  4. Hywel ap Owen Gwynedd
  5. Tywysog Cymru
  6. Madog Benfras
  7. Gruffydd Gryg
  8. Dafydd ap Gwilym
  9. Robin Ddu o Fon.
  10. Goronwy Ddu o Fon