Mae Alaw? Mae Caw? Mae cant?
Mae miloedd mwy eu moliant?
Pwy a rif dywod Llifon?
Pwy rydd i lawr wyr mawr Mon?
Awenyddol iawn oeddynt,
Yn gynar, medd Ceisar gynt.
Adroddwch, mae'r Derwyddon,
Urdd mawr, a fu'n harddu Mon!
I'r bedd yr aethant o'r byd,
Och alar, heb ddychwelyd!
Hapus yw Mon a'i hepil,
Ag o'r iawn had, gywrain hil.
Clywaf arial[1] i'm calon,
A'm gwythi, grym yni Mon;
Craffrym, fel cefnllif cref—ffrwd,
Uwch eigion, a'r fron yn frwd,
Gorthaw[2] donn, dig wrthyd wyf,
Llifiaint, distewch tra llefwyf;
Clyw, Fon, na bo goelion gau,
Nag anwir fyth o'm genau;
Gwiried Ion a egorwyf,
Dan Ner, canys dewin wyf:—
"Henffych well, Fon, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir;
Goludog, ac ail Eden
Dy sut, neu Baradwys hen
Gwiwddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Ner, a dyn wyd;
Mirain wyt ym mysg moroedd,
A'r dwr yn gan' twr it' oedd,
Eistedd ar orsedd eursail
Yr wyd, ac ni welir ail,
Ac euraid wyt bob goror,
Arglwyddes a meistres mor.
Gwrth y rhod trwod y traidd,
Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/50
Prawfddarllenwyd y dudalen hon