Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dy enw fydd, da iawn fod,
Nef fechan y Naf uchod;
Rhifir di'n glodfawr hefyd
Ar gyhoedd, gan bobloedd byd;
Ac o ran maint braint a bri,
Rhyfeddod hir a fyddi.

"Bellach f'yspryd a ballawdd,
Mi'th archaf i Naf a'i nawdd,
Gwilia rhag ofergoelion,
Rhagrith, er fy mendith, Mon.
Poed yť hedd pan orweddwyf
Ym mron llawr estron lle'r wyf.
Gwae fi na chawn enwi nôd,
Ardd wen i orwedd ynod;
Pan ganer trwmp Ion gwiwnef,
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Mon a'i thirionwch,
O wres fflam yn eirias fflwch,
A'i thorog wythi arian,
A'i phlwm a'i dûr yn fflam dân!
Pa lês cael lloches o'r llaid?
Duw rano dŷ i'r enaid,
Gwiw ganaid, dŷ gogoniant
Ynghaer y ser, ynghôr Sant
Ac yno'n llafar ganu,
Eirian eu cerdd i'r Ion cu,
Poed Gwyr Mon, a Goronwy,
Heb allael ymadael mwy
Cyduned a llefed llu
Monwysion, Amen, IESU.