CYWYDD Y FARF.
1752.
CEFAIS gystudd i'm gruddiau,
Oer anaf oedd i'r ên fau;
Oerfyd a gair o arwfarf,
A dir boen o dori barf;
Mae goflew im' ac aflwydd,
A llwyni blew, llai na blwydd;
Crynwydd, fal eithin crinion
Yn fargod, da bod heb hon;
Trwsa'n difwyno traserch;
Athrywyn[1] mwynddyn a merch;
Mynych y ffromai meinwen
Wrth edrych ar wrych yr ên;
Difudd oedd ceisio'i dofi,
Ffei o hon, hwt! ffoi wna hi.
Caswaith (er daed cusan)
Ymdrin â merch â'm drain mân,
Briwio'i boch wrth ei llochi;
Och i'r rhawn! ac ni châr hi;
Ac aflwydd êl â'r goflew,
Sofl a blyg, ond ni syfl blew;
Cas gan feinwar ei charu
O waith y farf ddiffaith ddu.
Pwn ar ên, poen i wr yw,
Poenus i wyneb benyw;
Pleidwellt na laddai pladur,
Rhengau o nodwyddau dur
Dreiniach, fal pigau draenog,
Hyd ên ddu, fal danedd og;
Brasgawn, neu swp o brysgoed,
Picellau fal cangau coed;
Ffluwch[2] lednoeth, yn boeth y bo,
Gwyll hyllwedd, gwell ei heillio
Ag ellyn, neu lem gyllell,
Farf ddiffaith, ni bu waith well.