Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond gwell rhag y gyllell gerth,
Enyn gwalc yn wen goelcerth;
Mindrwch gwlltr gweindrwch gwandrwm,
Dyrnwr a'i try, dwrn hwyr trwm;
Ellyn a charn cadarn coch,
Hwswi bendrom sebondroch,
Tan fy marf, ar bob arfod,
Y rhydd ei hannedwydd nôd,
Briw cyfled â lled ei llafn,
Llun osgo llaw anysgafn;
O'm grudd y rhed y rhuddwaed,
Bydd lle craf wânaf[1] o waed,
Gwelid, o glust bwygilydd,
Ddau ben yr agen a rydd,
Hifio fy nghroen a'm poeni,
Llwyr flin yw ei min i mi.
O mynai Nef im' unwaith
En iach, heb na chrach na chraith,
Yn ddifrif rhown ddiofryd,
Holl hifwyr a barfwyr byd.
Rhown ddinidr[2] iawn eidduned,
Llw diau, myn creiriau cred,
Na fynwn i fau wyneb,
Un ellyn noeth, na llaw neb,
Medrusaidd im' ei drawswch,
A gwynfyd yw byd y bwch
Odid, filyn barfwyn bach,
Y gellid cael ei gallach,
A chywilydd, o choeliwch,
I ddyn na b'ai ddoniau bwch
Hortairs[3]
 na thybiai hurtyn
Ddawn ei Dduw'n addwyn i ddyn.
Croesaw y farf, wiwfarf, yt,
Cras orthwf, croesaw wrthyt,
Na fid digrif yn ddifarf,
Na'i fin heb lathen o farf.

  1. Cynyrch ergyd pladur.
  2. Cynyrch ergyd pladur.
  3. Difriair.