Bid pawb oll i'w harfolli,[1]
Arfollaf a harddaf hi,
A dioddefaf dew ddufarf,
Rhag eillio, gribinio barf
CYWYDD I'R AWEN.
Ar ddull HORAS, Lib, IV. Ode III.
Quem tu, Melpomene, &c., 1752.
O CHAI fachgen, wrth eni,
Wyd Awen dêg, dy wên di,
Ni bydd gawr na gwr mawrnerth,
Prydu a wna, Pa raid nerth?
Ni char ffull na churo ffest
Na chau dwrn, o chaid ornest
O b'ai'n, agwrdd benigamp
Ni chais glod gorfod y gamp;
Yn ei ddydd e ni ddiddawr
Gael parch am yru march mawr,
Ni chyrch drin[2] na byddinoedd,
Ni char nâd blaen—gad a bloedd,
Ni chaiff elw o ryfelwaith,
Na chlod wych hynod ychwaith,
Na choryn hardd, ddigardd[3] ddyn,
Draw i gil o droi gelyn
Mawl a gaiff am oleu gerdd,
A gwiw sein—gan gyson—gerdd,
Barddwawd[4] fel y gwnai beirddion
Defnyddfawr o Wlad fawr o Fon.
Cymru a rif ei phrif-feirdd,
Rhifid ym Mon burion beirdd,
Cyfran a gaf o'u cofrestr,