Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/58

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pond[1] gwell llên ac awenydd?
Gwell llun na'r eilun a rydd;
Dug o eryr da'i gariad,
Gwrawl Udd[2] a gâr ei wlad,
Llyw yn arwain llon aerweilwch,
Teirf yn nhrin[3] fyddin o feilch,
Wrth a gâr, yn oen gwaraidd,
Yn nhrin, llyw blin, llew a blaidd,
Araf oen i'w wyr iefainc,
Llew erchyll, a ffrewyll Ffrainc.
Pwy âg arfau? pa gerfiiad
A rydd wg golwg ei gad?
Trefi yn troi i ufel
O'i froch, a llwyr och lle'r êl!

Pwy a gai, oni b'ai bardd,
Glywed unwaith glod iawnhardd?
Tlws ein hiaith Taliesin hen
Parodd goffhau AP URIEN;
Aethai, heb dant a chantawr,
Ar goll hanes Arthur Gawr.
Cân i fad, a rydd adwedd
O loes, o fyroes, o fedd;
Cerdd ddifai i rai a roes
Ynill tragywydd einioes,
Nudd, Mordaf, haelaf helynt,
Tri hael Ior, ac Ifor, gynt,
Laned clod eu haelioni
Wrth glêr, hyd ein hamser ni!
Ac odid (mae mor gadarn)
Eu hedwi fyth hyd y farn,
Rhoddent i feirdd eu rhuddaur
A llyna rodd well na'r aur;
Rhoid eto (nid rhaid atal)
I fardd, ponid hardd y tál?
A ddel o'i awen ddilyth
O gyfarch, a bair barch byth.

  1. Onid.
  2. Arglwydd.
  3. Rhyfel.