Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/61

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyrchwn, ni ruswn, oer ôd,
Rhyn, oerfel, rhew anorfod,
A gwlad yr ia gwastadawl,
Crisian—glawdd na thawdd, na thawl.
Od awn i'r daith drymfaith draw,
Ofered im lafuriaw!
Gwledydd ormod a rodiais,
Trwy bryder ac ofer gais,
Llemdost i mi'r bell ymdaith,
A phellaf gwacaf y gwaith,
Chwilio ym man am dani,
Chwilio hwnt heb ei chael hi;
Nid oes dwr na dwys diredd,
Na goror ym môr a'i medd.
Da gwyr IESU, deigr eisioes
Dros fy ngran drwstan a droes,
Pond dlawd y ddihirffawd hon,
Chwilio gem, a chael gwmon!

Anturiais ryw hynt arall
O newydd, yn gelfydd gall,
Cynull (a gwael y fael fau)
Traul afraid, twr o lyfrau,
A defnyddiau dwfn addysg,
Sophyddion dyfnion eu dysg;
Diau i'r rhai'n, o daer hawl,
Addaw maen oedd ddymunawl,
Maen â'i fudd uwchlaw rhuddaur,
Maen oedd a wnai blwm yn aur;
Rhoent obaith ar weniaith wâg
O byst aur, â'u bost orwag,
Llai eu rhodd, yn lle rhuddaur,
Bost oedd, ac ni chawd byst aur.
Aur yn blwm trathrwm y try,
Y mae son mai haws hyny;
Ffuant yw eu hoff faen teg,
Ffol eiriau a ffiloreg.