Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Deulyfr a ddaeth i'm dwylaw
Llawn ddoeth, a dau well ni ddaw,
Sywlyfr[1] y Brenhin Selef,[2]
A Llyfr pur Benadur Nef,
Deufab y brenhin Dafydd,
Dau fugail, neb ail ni bydd,
Gwiwfawr oedd un am gyfoeth,
Brenhin mawr dirfawr a doeth,
Rhi'n honaid[3] ar frenhinoedd,
Praff deyrn, a phen prophwyd oedd.
Ba wledd ar na bu i'w lys?
Ba wall o b'ai ewyllys?
Ba fwyniant heb ei finiaw?
Ba chwant heb rychwant o braw'?
Ar ol pob peth, pregethu
Mor ynfyd y byd y bu,
Gair a dd'wedai gwir ddidwyll,
Llawn yw'r byd ynfyd o dwyll,
A hafal ydyw hefyd
Oll a fedd, gwagedd i gyd.
O'i ddwys gadarn ddysgeidiaeth
Wir gall, i'm dyall y daeth,
Na chaf islaw ffurfafen
Ddedwyddyd ym myd em wen;
Ni chair yr em hardd-drem hon
Ar gyrau'r un aur goron,
Na chap Pâb, na chwfl abad,[4]
Na llawdr[5] un ymerawdr mâd.

Llyna sylwedd llên Selef,
Daw'n ail efengyl Duw Nef
D'wedai un lle nad ydoedd,
Ar ail ym mha le yr oedd.
Daw i ddyn y diddanwch
Yn Nefoedd, hoff lysoedd fflwch,
Fan deg! yn Nef fendigaid,

  1. Llyfr doeth
  2. Solomon
  3. Enwog
  4. Hwd yr Abad
  5. Unigol am lodrau