Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tlws ar bob gorddrws a gaid,
Pob careg sydd liwdeg lwys,
Em wridog ym Mharadwys;
Ac yno cawn ddigonedd
Trwy rad yr Ion mâd a'n medd.
Duw'n ein plith, da iawn ein plaid,
F'a'n dwg i Nef fendigaid.
Drosom, Iachawdwr, eisoes
Rhoes ddolef, daer gref, ar groes,
Ac eiddo ef, Nef a ni,
Dduw anwyl, fa'i rhydd ini.

Molaf fy Naf yn ufudd,
Nid cant, o'm lladdant, a'm lludd,
Dyma gysur pur heb ball,
Goruwch a ddygai arall;
Duw dy hedd rhyfedd, er hyn,
Bodloni bydol annyn.
Boed i angor ei sorod,
I ddi-ffydd gybydd ei gôd
I minau boed amynedd,
Gras, iechyd, hawddfyd, a hedd.

ENGLYN AR DDYDD CALAN

Dydd genedigaeth y Bardd, 1746.

HYNT croes fu i'm hoes o hyd,—echrysawl,
A chroesach o'm mebyd;
Bawaidd fu hyn o'm bywyd,
Ond am a ddaw, baw i'r byd.