Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/66

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwaeth oedd genedigaeth Io,[1]
Diwrnod a gwg Duw arno,
Calan wyt ni'th cwliai[2] Naf,
Dwthwn wyt na's melldithiaf.
Nodwyl fy oedran ydwyt,
Ugeinfed a degfed[3] wyt;
Cyflym ydd â rym yr oes,
Duw anwyl, fyred einioes!
Diddam a fum Galan gynt,
A heinif dalm o honynt,
Llawn afiaeth a llon iefanc,
Ddryw bach, ni chaid llonach llanc;
Didrwst ni bu mo'm deudroed
Ymhen un Calan o'm hoed,
Nes y dug chwech ar hugain
Fab ffraeth i Fardd meddfaeth main;
Er gweled, amryw Galan,
Gofal yn lle cynal cân,
Parchaf anrhydeddaf di,
Tymor nid drwg wyt imi.
Cofiaf, Galan, am danad,
Un dydd y'm gwnaethost yn dad,
Gyraist im' anrheg wiwrodd,
Calenig wyrenig[4] rôdd.
Gwiwrodd, pa raid hawddgarach
Na Rhobert, y rhodd bert bach?
Haeddit gân, nid rhodd anhardd,
Rhoi im' lân faban o fardd,
Hudol am gân, hy' ydwyt,
O b'ai les gwawd, blysig wyt;
Dibrin wyf, cai di obrwy,
Prydaf i yt' (pa raid fwy?)
A chatwyf hir barch iti,
Wyl arab fy mab a mi.

  1. Job
  2. Beiai.
  3. 30 oed
  4. Bywiog