Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/67

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aed y Calendr yn hendrist,[1]
Aed cred i ammau oed Crist,
Syfled pob mis o'i safle,
Ac aed â gŵyl gyd ag e;
Wyl ddifai, di gai dy gwr,
Ni'm neccy almanacwr,
Cei fod ar dal y ddalen,
Diball it' yw dy bill hen;
Na syfl fyth yn is, ŵyl fawr,
Glyn yno, Galan Ionawr;
Cyn troi pen dalen, na dwy,
Gweler enwi gwyl Ronwy,
A phoed yn brif ddigrifwyl,
I'r beirdd, newydd arab ŵyl
A bid ei phraff argraphu
Ar dalcen y ddalen ddu.
Llead[2] helaeth, lled dwylain,
Eangffloch, o liw coch cain.[3]

CYWYDD I'R CALAN

Yn y flwyddyn 1755, pan oedd glaf y BARDD yn Walton.

Ow! hen Galan, hoen gwyliau,
Cychwynbryd fy mywyd mau,
Ond diddan im' gynt oeddit
Yn Ionor? Hawddamor it'!
Os bu lawen fy ngeni,
On'd teg addef hyn i ti?
Genyt y cefais gynydd
I weled awr o liw dydd;
Pa ddydd a roes im' oesi,
Trwy rad Ion ein Tad, ond ti?
Adrodd pob blwydd o'm hoedran,

  1. Cyfeiriad at symudiad y Calan
  2. Darlleniad.
  3. Red Letter Day.