Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I'r môr, ac ni'th weler mwy,
A dygaist ddryll diwegi,
Heb air son, o'm beroes i
Difwynaist flodau f'einioes,
Bellach pand yw fyrach f'oes?
O Galan hwnt i'w gilydd,
Angau yn neshau y sydd;
Gwnelwyf â Nef dangnefedd
Yn f'oes, fel nad ofnwyf fedd;
A phoed hedd cyn fy medd mau,
Faith ddwthwn rh'of a thithau;
Dy gyfenw ni ddifenwaf,
Os ei gwrdd yn l'oes a gaf,
Ni thaeraf annoeth eiriau,
Gam gwl,[1] er fy mygwl[2] mau.
Bawaidd os hyn o'm bywyd,
Rhwy fu'r bai rh'of fi a'r byd;
Addefer di yn ddifai,
Rhof fi a'r byd rhwy fu'r bai.
Duw gwyn a'm diwygio i,
A chymod heddwch imi
A ddel, cyn dy ddychwelyd,
A llai fyddo bai y byd;
Yna daw gwyliau llawen
I mi, ac i bawb. Amen.

CYWYDD MARWNAD

MARGED MORYS,[3] Gwraig Morys-ap Rhisiart Morys, o Bentre Eirianell ym Mon, 1752.

MAWR alar, trwm oer wylaw,
A man drist sydd yn Mon draw,
Tristyd ac oerfryd garwfrwyn,[4]
Llwyr brudd, a chystudd a chwyn;

  1. Bai
  2. Bygwth
  3. Mam y brodyr enwog Lewis, Richard, a William Morys.
  4. Brwyn—athrist