Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/70

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tristaf man Pentre'rianell,
Ni fu gynt un a fa'i gwell,
Ni fu chwerwach tristach tro
I Fon, nag a fu yno.
Lle bu ddien lawenydd,
Ubain a dwys ochain sydd;
Digroyw lif, deigr wylofain,
Am Farged y rhed y rhai'n,
Didaw am Farged ydynt,
Marged law egored gynt;
B'd hapus haelionus law,
Ffrawddus[1] i fil ei phriddaw!
Rhy fawr san[2] ar Forys yw,
Oer adwyth i'w gwr ydyw;
Deuddyn un enaid oeddynt,
Dau ffyddlon, un galon gynt;
Mâd enaid! chwith am dani,
A phrudd hwn o'i phriddo hi,
Ac o'i herwydd dwg hiraeth
Ormod, ni fu weddwdod waeth!

Toliant[3] ar lawer teulu
Ar led, am Farged a fu,
Ymddifaid a gweiniaid gant
Ychenawg,[4] a achwynant
Faint eu harcholl, a'u colled,
Farw gwraig hael, lle bu cael ced.
Llawer cantorth o borthiant
Roe hon, lle b'ai lymion blant;
Can' hen a ddianghenodd,
I'r un ni bu nâg o rodd;
Gwiw rodd er mwyn goreudduw,
Gynes weinidoges Duw.

Gwraig ddigymar oedd Marged
I'w plith am ddigyrith ged,

  1. Dolurus
  2. Syn
  3. Tolliant
  4. Annghenog