Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A ched ddirwgnach ydoedd,
Parod, heb ei danod oedd.

Di ball yn ol ei gallu,
Rhwydd a chyfarwydd a fu,
Rhyfedd i'w chyrredd o chaid
Ing o unrhyw angenrhaid;
Rhoe wrth raid gyfraid i gant,
Esmwythai glwyfus methiant,[1]
Am gyngor Doctor nid aeth
Gweiniaid, na meddyginiaeth,
Dilys, lle b'ai raid eli,
Fe'i caid; nef i'w henaid hi.

Aed i nef a thangnefedd,
Llawenfyd hawddfyd a hedd;
Nid aeth mâd, wraig deimladwy
O'n plith a gadd fendith fwy
Bendith am ddiragrith rodd,
Hoff enaid! da y ffynodd;
Os oes rhinwedd ar weddi,
Ffynu wna mil o'i hil hi.

Pa lwysach hepil eisoes?
Ei theulu sy'n harddu'n hoes?
Tri mab doethion tirionhael,
Mawr ei chlod merch olau hael,
Trimab o ddoniau tramawr,
Doethfryd a chelfyddyd fawr;
LEWIS wiwddysg, lwys addwyn,
Athraw y gerdd fangaw fwyn,
Diwyd warcheidwad awen,
Orau gwaith, a Chymraeg wen.
RHISIART am gerdd ber hoywsain,
Hafal ni fedd Gwynedd gain;
Annhebyg tra bo'n hybarch

  1. Yr oedd M. Morys yn llysieuwraig enwog