Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Beibl[1] na bydd iddo barch.
Allai fod (felly ei fam)
Deilen na nodai WILIAM?[2]
Chwiliai ef yr uchelion,
Y môr, a thir, am wyrth Ion;
Tradoeth pob brawd o'r tridyn,
Doeth, hyd y gall deall dyn;
Tri gwraidd frawd rhagorawl,
Haeddant, er na fynant fawl.
Da'r had—na newid eu rhyw,
D'wedant, ym Mon, nad ydyw
Cyneddfau, doniau dinam
ELIN, ei merch, lai na'i mam.

Da iawn fam! diau na fu
Hwnt haelach perchen teulu;
Rhy dda i'r byd ynfyd oedd,
Iawn i fod yn nef ydoedd;
Aeth i gartref nef a'i nawdd,
Duw IESU a'i dewisawdd;
Uniawn y farn a wna fo,
Duw Funer,[3] gwnaed a fyno.
Dewisaf, gan Naf, i ni
Oedd ddeisyf iddi oesi,
Hir oesi, cael hwyr wŷsiad
Adref i oleunef wlad.

Gwae 'r byd o'r enyd yr aeth!
Oer bryd oedd ar Brydyddiaeth;
Achles i wen awen oedd,
A nesaf i'r hen oesoedd,
Cynes i feirdd tra cenynt,
Oedd canu ffordd Gymru gynt,
Cael braint cân, o ddadanhudd,
A chler, er yn amser Nudd;
Boed heddwch a byd diddan

  1. Golygwr dau argraffiad o'r Bibl, 1746, a 1752.
  2. Llysieuwr digymhar
  3. Cynaliwr.