Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/73

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Byth it', ti a gerit gân;
Ac yna'n entrych gwiwnef,
Cydfydd â cherdd newydd nef;
Ni'th ludd cur, llafur na llid,
Da, yn Nuw, yw dy newid;
Newidio cân, (enaid cu!)
Monwysion am un IESU
Clywed llef y Côr nefawl,
Gwyn dy fyd! hyfryd dy hawl!
Lleisiau mowrgerth llesmeirgerdd
Côr y saint, cywraint eu cerdd,
Cu eu hodlau! cyhydlef,
Gwynion delynorion nef;
Canllef dwsmel tra melys,
Fal gwin ar bob ewin bys.

Dedwydd o enaid ydwyt,
Llaw Dduw a'n dycco lle'dd wyt.
A'n hanedd, da iawn hono,
Amen, yn nef wen a fo.[1]


DAU ENGLYN O GLOD I'R DELYN, 1755:

TELYN i bob dyn doniawl,—ddifaswedd,
Ydoedd fiwsig nefawl;
Telyn fwyn-gan ddiddanawl!
Llais Telyn a ddychryn ddiawl.

Nid oes hawl i ddiawl ar ddyn—mwyn cywraint,
Y mae'n curo'r gelyn;
Bwriwyd o Saul Yspryd syn,
Diawlaidd wrth ganu'r Delyn.


  1. Y mae y pedair llinell olaf hyn yn gerfiedig ar fedd M Morys.