Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/75

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dwg urael[1] diwyg eurwerth,
Na fo gael un o fwy gwerth:
Aur osodiad ar sidan
I'r lwys wawr lân.

Ar hyd y llawr, y wawr wych,
Cai irddail ffordd y cerddych;
Gwiwrif gwyros,[2]
A rhif o'r rhos,
Da lios, deuliw ewyn;[3]3
Brysia, dos; ber yw oes dyn:
Du 'ch ellael,[4] deuwch allan,"
Yw 'n cerdd a'n cân.

O chlywi, wenferch Lewys,
Dyre i'r llan draw o'r llys;
Canweis cenynt[5]
O'th ol i 'th hynt,
A llemynt â'u holl ymhwrdd ;
Felly gynt, fe ae llu gwrdd
I'r eglwys, wawr rywioglan,
A'r glwys wr glân.

Wedi rhoi 'n rhwydd sicrwydd serch,
I'r mwynfab, orau meinferch,
Hail[6] i'n hoew—wledd,
Dwg win, deg wedd;
Dwg o anredd digynnil
Ddogn o fêdd, ddigon i fil,
"A chipio pib a chwpan"
Yw'n cerdd a'n cân.

Rhodder a chlêr a'u haeddant—
Bwyd a gwin, be deuai gant;
I gyd ni gawn

  1. Urail—lleianwisg teg a drudfawr.
  2. Dail bytholwyrdd
  3. Ewyn y don.
  4. 4 Ael
  5. Cyfeiriad at hen defod Gymreig mewn priodasau.
  6. Gwasanaethu wrth fwrdd y wledd; o hyn y tardd y gair Heilyn am BUTLER.