Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/77

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gyr sin[1] i wan gresynol,
I Dduw a wnair; e ddaw 'n ol:
Afiaith ofer
Y sydd is ser;
Gorau arfer, gwawr eurfain,
Moli dy Ner mal dy nain;[2]
Gwiwnef it hwnt, gwynfyd da;
Amen yma!

NODAU AR Y BRIODASGERDD UCHOD.— Llemynt,' &c. alluding to the old custom of dancing a Morris-dance at a wedding. 'A fedro rhoed drwy fodrwy,' &c. Mae yn debyg y gwyddoch hyny o gast, a pha ddefnydd a wneir o'r deisen a dyner drwy y fodrwy. Y nos wrth daflur hosan,' mae'n gyffelyb y gwyddoch hyn hefyd; ond rhag nas gwyddoch, fel hyn y mae trin y dreth; sef pan ddel y nos, y briodasferch a a i'w gwely, a chryn gant o fenywiaid gyda'i chynffon yn esgus llawforwynion i'w helpu i ymddiosg; a phan dyno ei hosan hi a'i teifl dros ei hysgwydd, ac ar bwy bynag y disgyno, hono a gaiff wr gyntaf. Probatum est eto. Dyna'r ffordd yn Lloegr; ni wn i a ydyw yr un ffordd yn Nghymru ai peidio, ac nis gwaeth genyf.'—Llythyr GORONWY DDU at WILLIAM MORYS.

UNIG FERCH Y BARDD

Yr hwn oedd dra anwyl gantho, a fu farw yn Walton[3] yn Lancashire, Ebrill y 17, 1755, yn bum mis a blwydd o ved, ac yntau a gant y Farwnad hon iddi.

MAE cystudd rhy brudd i'm bron—'rhyd f'wyneb,
Rhed afonydd heilltion;
Collais Elin, liw hinon,
Fy ngeneth oleubleth lon!

Anwylyd, oleubryd lân,
Angyles, gynes ei gwên,
Oedd euriaith mabiaith o'i min,
Eneth liw ser (ni thâl son):

  1. Elusen
  2. Margred Morys. Gweler t. d. 61
  3. WALTON—treflan y ngorwedd tua phedair milldir i'r gogledd o Lerpwl. Rhan o blwyf Walton ydoedd Lerpwl yn yr hen amser