Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/80

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Iach wladwyr eilchwyl ydym,
Oll yn awr, a llawen ŷm,
Ni fu wlad o'i phenadur
Falchach ar ol garwach gur.

Llyw o Udd[1] drud llewaidd draw,
I ni sydd, einioes iddaw,
Udd gwrawl, haeddai gariad,
Por dewr, a ddirprwy ei dad;
Ni bu ryfedd rinweddau,
Ym maboed erioed ar Iau,
Arwr a fydd, ddydd a ddaw,
Mawreddog,—Ammor[2] iddaw!

Hiroes i wâr Gaisar gu,
Di-orn oes i deyrnasu;
A phan roddo heibio hon
I gyraedd nefol goron,
Nefol goron gogoniant
Yn oediog, lwys enwog sant,
Poed TRYDYDD SIOR ein IOR ni,
O rinwedd ei rieni,
Yn iawnfarn gadarn geidwad,
I'w dir, un gyneddf a'i dad.

Am a ddywaid maddeuant
A gais yr awen a gânt.
Hyn o'ch clod mewn tafodiaith,
A dull llesg hen dywyll iaith;
Mawr rhyddid Cymru heddyw,
Llawen ei chân, llonwych yw,
Trwy eu miloedd tra molynt
Eu Noddwr, hoyw gampwr gynt;
Llyw diwael yn lle Dewi,
Ior mawr, wyt yn awr i ni;
Ti ydyw'n gwarlyw gwirles,
Ti fydd ein llywydd a'n lles,

  1. Arglwydd,
  2. Hawddamor,