Os dy ran, wr dianhael,
A wisg y genhinen wael,
Prisiaf genhin brenhinwych
Uwch llawrydd tragywydd gwych.
ENGLYNION
I ofyn cosyn llaeth-geifr gan William Gruffudd o Ddrws-y-coed yn Eifionydd, tros Domas Huws, mab Huw ab Ifan, o Landygai, oedd yn was yn Liverpool, neu Nerpwl, 1754.
DYNYN wyf, a adwaenoch—er enyd,
A yra anerch atoch;
Rhad a hedd ar y feddoch
I'ch byw, a phoed iach y bo'ch.
I chwi mae, i'ch cae, uwch cyll,
Geifr, hyfrod, bychod, heb wall,
Llawer mynnyn, milyn mwll,
Rhad rhwydd a llwydd ar bob llill.[1]
Mae iwch gaws liaws ar led—eich anedd,
A'ch enwyn cyn amled;
Y mwynwr er dymuned,
Rhowch i'm gryn gosyn o ged.
Cosyn heb un defnyn dwfr,
Cosyn ar wedd picyn pefr,
Cosyn o waith gwrach laith lofr
Cosyn o flith[2] gofrith gafr.
Blysig, anniddig ei nâd,—yw meistres,
A mwstro mae 'n wastad;
Ni fyn mwy un arlwyad,
Na gwledd ond o gaws ein gwlad.