Myn Mair, onis cair y caws
Ar fyr, y gwr difyr dwys,
Ni bydd swydd, na boddio Sais,
Na dim mwy hedd i Dwm Huws.
Os melyn gosyn a gaf,—nid unwaith
Am dano diolchaf;
Milwaith, wr mwyn, y'ch molaf,
{Hau'ch clod ar bob nod a wnaf.
ENGLYN A SAIN.
Pwy estyn bicyn i bwll—trybola,
Tra bo i'w elw ddeuswllt?
Trasyth fydd perchen triswllt,
Boed sych a arbedo swllt.
ARWYRAIN Y NENAWR
A wnaed yn Llundain, 1755.—(The Garret Poem).
CROESAW i'm diginiaw gell,
Gras Dofydd![1] gorau 'sdafell;
Golygle a gwawl eglur,
Derchafiad Offeiriad[2] ffur.
Llety i fardd gwell ytwyd
Na'r twrdd wrth y bwrdd a'r bwyd;
Mwy dy rin am ddoethineb,
Na gwahadd i neuadd neb:
Hanpwyf foddlon o honod,
Fur calch, on'd wyf falch dy fod?
Diau mai gwell y gell gu,
Ymogel na'th ddirmygu,
Nid oes, namyn difoes, da